Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Hydref 2017
Amser:
08.30 -
08.37
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
·
Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf
o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r cyfnod pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 15 Tachwedd 2017 –
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Seilwaith Digidol yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 25 Hydref:
NNDM6350 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer bil a fyddai’n addasu’r broses gynllunio fel bod rhagdybiaeth yn erbyn hollti hydrolig (ffracio).
2. Yn nodi mai diben y bil hwn fyddai amddiffyn tirwedd Cymru ac iechyd y cyhoedd.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod ar ôl hanner tymor.
Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ymestyn y dyddiad cau i'r pwyllgor adrodd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), cytunodd y Rheolwyr Busnes ar ddyddiad cau newydd, sef 23 Tachwedd 2017. Bydd y dyddiad cau estynedig hefyd yn berthnasol i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, gan fod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wedi cael ei gyfeirio at y ddau ohonynt.
Nododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen ar gyfer trafod y Bil Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) fel y cytunwyd yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf. Mae'n cynnwys wythnos ychwanegol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, a slot ychwanegol i'r pwyllgor gwrdd ar fore Mawrth; mae'r ddau ar gais y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
Cytunodd Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad, a fydd yn cael ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno. Bydd cynigion yn cael eu cyflwyno a'u hychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn yfory i ddod â phenderfyniadau'r Pwyllgor Busnes i rym ynghylch aelodaeth pwyllgorau, yn amodol ar Blaid Cymru yn cyflwyno enwau Aelodau i lenwi'r lleoedd gwag ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Deisebau, a Neil McEvoy yn nodi ei fod yn dymuno cymryd y cynnig o le ar y Pwyllgor Deisebau. Bydd y cynigion yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân, a bydd angen i bob un ohonynt gael eu pasio gan fwyafrif o ddwy ran o dair.